PhD Studentship: University of Nottingham AHRC Collaborative Doctoral Partnership (CDP) studentship with Amgueddfa Cymru-Museum Wales
South Wales in Medieval Atlantic Europe, c. 1000-1500 CE
Start date: October 2025
Application Deadline: 5pm, Friday, 30th May 2025
Interviews will take place via Ms Teams on Tuesday, 24th June 2025
The University of Nottingham and Amgueddfa Cymru-Museum Wales are pleased to announce the availability of a fully funded Collaborative doctoral studentship from October 2025 under the AHRC’s Collaborative Doctoral Partnership Scheme.
The student will be based at University of Nottingham Department of Classics and Archaeology and Amgueddfa Cymru-Museum Wales, Cathays Park, Cardiff. There will be opportunities to take part in the programme of CDP Cohort Development events and other activities organized for CDP students by the AHRC, as well as training and development provided by the University of Nottingham Researcher Academy and the CDP Welsh Culture and Heritage Consortium.
Project Details
Recent research on maritime connections between Britain and Atlantic Europe (including France and Iberia) during the Middle Ages, and maritime engagement in medieval Wales, hint at far greater use of seaways by a broader spectrum of people than previously appreciated. Welsh connections have been studied in detail for the early medieval period but new excavated and stray-find evidence from the later medieval period has received limited attention. By using the new data from two case-study regions (southeast and southwest Wales), this studentship-project aims to provide a new narrative of interaction between South Wales and Atlantic Europe from 1000-1500 CE, based on the full range of international and British links now evident during this transformative era. Especial focus is placed on places, nature and contexts of connections. Portable objects (metalwork, coins, ceramics) will provide the data, principally from Amgueddfa Cymru, augmented by material from regional museums, and PAS-Cymru/Heneb HER records. During the four-year programme, ideally, years 1 and 4 will be based at University of Nottingham; years 2 and 3 will be based at Amgueddfa Cymru. The supervision team is led by Christopher P. Loveluck, Professor of Medieval European Archaeology, University of Nottingham; and Sian Iles, Senior Curator-Medieval, Amgueddfa Cymru.
For informal enquiries about the project, please contact: Professor Christopher P. Loveluck, Christopher.Loveluck@nottingham.ac.uk; or Ms Sian Iles, sian.iles@museumwales.ac.uk
Studentship Award Details
CDP doctoral training grants fund full-time studentships for 48 months (4 years) or part-time equivalent up to a maximum of 8 years. Placement and development opportunities, to be shaped in collaboration with the successful candidate, will be embedded into this funding period.
The award pays tuition fees up to the value of the full-time home fee. Research Councils UK Indicative Fee Level for 2025/2026 is £5.006. Students with an ‘overseas’ fee status are welcome to apply. The successful applicant can apply for additional international fee funding via the University of Nottingham Researcher Academy if they have international status. The student will be required to reside in the UK until completion of the PhD.
The award pays an annual stipend for all students, both home and international students. This stipend is tax free, and is the equivalent of an annual salary, enabling the student to pay living costs. The UKRI Minimum Doctoral Stipend for 2025/2026 is £20,780 (rising in alignment with UKRI) plus a CDP maintenance payment of £600 per year.
The student is also eligible to receive an additional travel and related expenses grant during the course of the project courtesy of the CDP4 Welsh Heritage Consortium worth up to £400 per year for 4 years (48 months).
Eligibility Criteria
This studentship is open to both Home and International applicants. International applicants will need to demonstrate how they will cover the gap between the studentship and international PGR fees. To be classed as a home student, candidates must meet the following criteria:
- Be a UK National (meeting residency requirements), or
- Have settled status, or
- Have pre-settled status (meeting residency requirements), or
- Have indefinite leave to remain or enter
Further guidance can be found here based on revisions to Training Grant Terms and Conditions for projects starting in October 2025 - Policy statement: review of the training grant conditions – UKRI
The project can be undertaken on a full-time or part-time basis.
We want to encourage the widest range of potential students to study for a CDP studentship and are committed to welcoming students from different backgrounds to apply.
Applicants should ideally have, or expect to receive a relevant Masters-level qualification and/or be able to demonstrate equivalent experience in a professional setting. Suitable disciplines are flexible but might include medieval archaeology or medieval history. We welcome applications from Welsh-speakers but it is not a requirement for this studentship.
NB. All applicants must meet UKRI terms and conditions for funding. See:
https://www.ukri.org/funding/information-for-award-holders/grant-terms-and-conditions/
How to apply
To apply please visit: https://forms.office.com/e/t19BWhK82f
The application process comprises the completion of an Ms form application, accessed by the link above, and upload of a CV. Two references will also need to be provided to support each application by the application deadline.
We ask all applicants to complete a voluntary CPD EDI monitoring form here. All responses are anonymous.
For further information about the studentship, please contact Professor Christopher Loveluck.
We are committed to supporting applicants from a variety of backgrounds. For further information on the process, or to request reasonable adjustments, please contact: AHRCPHD@nottingham.ac.uk
Ysgoloriaeth Ymchwil Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC Prifysgol Nottingham gydag Amgueddfa Cymru
De Cymru Ewrop yr Iwerydd yn ystod yr Oesoedd Canol, tua 1000-1500 CE
Dyddiad dechrau: Hydref 2025
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 5pm, dydd Gwener, 30 Mai 2025
Cynhelir y cyfweliadau ar MS Teams ar ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025
Mae'n bleser gan Brifysgol Nottingham ac Amgueddfa Cymru gyhoeddi bod ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol Gydweithredol wedi'i hariannu'n llawn ym mis Hydref 2025 ar gael o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr ARHC.
Bydd y myfyriwr wedi'i leoli yn Adran y Clasuron ac Archaeoleg Prifysgol Nottingham ac Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan yn y rhaglen o ddigwyddiadau Datblygu Cohort CDP a gweithgareddau eraill a drefnir ar gyfer myfyrwyr CDP gan yr AHRC, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad wedi'i ddarparu gan Academi Ymchwilwyr Prifysgol Nottingham a Chonsortiwm Diwylliant a Threftadaeth Cymru CDP.
Manylion y Project
Mae ymchwil ddiweddar ar gysylltiadau morwrol rhwng Prydain ac Ewrop yr Iwerydd (gan gynnwys Ffrainc ac Iberia) yn ystod yr Oesoedd Canol, ac ymgysylltiad morwrol yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol, yn awgrymu bod llawer mwy o ddefnydd o forffyrdd gan sbectrwm ehangach o bobl na'r hyn a werthfawrogwyd yn flaenorol. Mae cysylltiadau Cymreig wedi cael eu hastudio'n fanwl ar ddechrau'r cyfnod canoloesol ond mae tystiolaeth newydd yn dilyn cloddio a thystiolaeth ddamweiniol o'r cyfnod canoloesol hwyrach wedi cael sylw cyfyngedig. Trwy ddefnyddio'r data newydd o ddau ranbarth astudiaeth achos (y de-ddwyrain a'r de-orllewin), nod y project ysgoloriaeth ymchwil hwn yw darparu naratif newydd o ryngweithio rhwng De Cymru ac Ewrop yr Iwerydd rhwng 1000-1500 CE, yn seiliedig ar yr ystod lawn o gysylltiadau rhyngwladol a Phrydeinig sy’n amlwg bellach yn ystod yr oes drawsnewidiol hon. Rhoddir ffocws arbennig ar leoedd, natur a chyd-destunau cysylltiadau. Bydd gwrthrychau cludadwy (gwaith metel, darnau arian, cerameg) yn darparu'r data, yn bennaf o Amgueddfa Cymru, wedi'i ategu gan ddeunydd o amgueddfeydd rhanbarthol, a chofnodion CAH PAS/Heneb. Yn ystod y rhaglen bedair blynedd, bydd blynyddoedd 1 a 4 yn cael eu treulio ym Mhrifysgol Nottingham yn ddelfrydol; Bydd blynyddoedd 2 a 3 yn Amgueddfa Cymru. Arweinir y tîm goruchwylio gan Christopher P. Loveluck, Athro Archaeoleg Ewropeaidd yn ystod yr Oesoedd Canol, Prifysgol Nottingham; a Sian Iles, Uwch Guradur-yr Oesoedd Canol, Amgueddfa Cymru.
Am ymholiadau anffurfiol am y project, cysylltwch â: Yr Athro Christopher P. Loveluck, Christopher.Loveluck@nottingham.ac.uk; neu Ms Sian Iles, sian.iles@amgueddfacymru.ac.uk
Manylion Dyfarniad yr Ysgoloriaeth Ymchwil
Mae grantiau hyfforddiant doethurol CDP yn ariannu ysgoloriaethau ymchwil amser llawn am 48 mis (pedair blynedd) neu gyfwerth yn rhan-amser hyd at uchafswm o 8 mlynedd. Bydd cyfleoedd lleoliad a datblygu, sydd i'w llunio mewn cydweithrediad â'r ymgeisydd llwyddiannus, yn cael eu hymgorffori yn y cyfnod cyllido hwn.
Mae'r dyfarniad yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y ffi cartref llawn amser. Lefel Ffioedd Dangosol Cynghorau Ymchwil y DU ar gyfer 2024/2025 yw £5.006* Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ymgeisio am nawdd ffioedd rhyngwladol ychwanegol trwy Academi Ymchwilwyr Prifysgol Nottingham os oes ganddynt statws rhyngwladol. Bydd gofyn i’r myfyriwr breswylio yn y DU tan y bydd y PhD wedi’i gwblhau.
Mae'r dyfarniad yn talu taliad blynyddol i bob myfyriwr, myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae'r taliad hwn yn ddi-dreth, ac mae'n gyfwerth â chyflog blynyddol, sy'n galluogi'r myfyriwr i dalu costau byw. Isafswm Taliad Doethurol UKRI ar gyfer 2024/2025 yw £20,780 (gan gynyddu yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn.
Mae'r myfyriwr yn gymwys i dderbyn grant costau teithio a threuliau cysylltiedig ychwanegol yn ystod y project hefyd drwy garedigrwydd Consortiwm Treftadaeth Cymru CDP4 sy'n werth hyd at £400 y flwyddyn am bedair blynedd (48 mis).
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn agored i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol. Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos sut y byddant yn talu'r gwahaniaeth rhwng yr ysgoloriaeth ymchwil a ffioedd Ymchwil i Raddedigion (PGR) rhyngwladol. I gael eu hystyried yn fyfyrwyr cartref, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Bod yn ddinesydd y DU (bodloni gofynion preswylio), neu
- Bod â statws preswylydd sefydlog, neu
- Bod â statws preswylydd cyn-sefydlog (bodloni gofynion preswylio), neu
- Bod â chaniatâd amhenodol i aros neu gael mynediad
Mae rhagor o ganllawiau ar gael yma yn seiliedig ar ddiwygiadau i Delerau ac Amodau Grant Hyfforddi ar gyfer projectau sy'n dechrau ym mis Hydref 2025 - Datganiad Polisi: adolygiad o amodau'r grant hyfforddi – UKRI
Gellir cyflawni'r project yn llawn amser neu'n rhan-amser.
Rydym eisiau annog yr amrywiaeth ehangaf o ddarpar fyfyrwyr i astudio ar gyfer ysgoloriaeth ymchwil CDP ac rydym wedi ymrwymo i groesawu myfyrwyr o wahanol gefndiroedd i wneud cais.
Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel Meistr perthnasol neu ddisgwyl derbyn cymhwyster o’r fath a/neu allu dangos profiad cyfatebol mewn lleoliad proffesiynol. Mae disgyblaethau addas yn hyblyg, ond gallent gynnwys archaeoleg ganoloesol neu hanes canoloesol. Croeswir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ond nid yw’n ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Ni fydd y myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Amgueddfa Cymru.
DS Rhaid i bob ymgeisydd fodloni telerau ac amodau UKRI ar gyfer cyllido. Gweler:
https://www.ukri.org/funding/information-for-award-holders/grant-terms-and-conditions/
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i: https://forms.office.com/e/t19BWhK82f
Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys cwblhau cais ar ffurf dogfen Ms (defnyddiwch y ddolen uchod) a chyflwyno CV. Hefyd, bydd rhaid darparu dau eirda i gefnogi pob cais erbyn y dyddiad cau ymgeisio.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen fonitro wirfoddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma. Mae pob ymateb yn ddienw.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth ymchwil, cysylltwch â'r goruchwyliwr arweiniol Professor Christopher Loveluck.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am y broses, neu i ofyn am addasiadau rhesymol, cysylltwch â AHRCPHD@nottingham.ac.uk
View All Vacancies